Sgorio Cymru
30 x 30' S4C
7 x Gêm Byw
Genre: Chwaraeon
Darlledwyd yn gyntaf: 2008
Mae Rondo wedi darlledu gemau pêl-droed byw ar S4C ers degawd a mwy gan gynnwys Sartid Smederovo v Bangor yng Nghwpan Uefa a Parma v Barcelona yn fyw o Stadiwm y Mileniwm.
Ers ennill tendr agored S4C, Rondo sydd yn cyflenwi pob un o raglenni pêl-droed y sianel gan gynnwys gemau byw o Gynghrair y Pencampwyr, Uwch Gynghrair Cymru a Chwpan Cymru yn ogystal â rhaglen wythnosol o uchafbwyntiau gemau'r Uwch Gynghrair yng Nghymru.
Cafodd tîm Sgorio Cymru dymor prysur iawn yn 2008/09 gan ddechrau ym mis Gorffennaf gyda gêm fyw o Gynghrair y Pencampwyr wrth i Lanelli herio FK Ventspils o Latfia, a gorffennwyd y tymor ym Mis Mai wrth i Fangor drechu Aberystwyth er mwyn cipio Cwpan Cymru ar Barc y Scarlets, Llanelli.
Mae darpariaeth Rondo ar gyfer Uwch Gynghrair Cymru yn arloesol wrth i'r cwmni wneud defnydd o sawl platfform digidol. Yn ogystal â'r rhaglen wythnosol ar deledu, mae'r uchafbwyntiau ar gael ar ein safle we ac fel podlediad wythnosol ar gyfer chwaraewyr MP3.
Lincs Sgorio Cymru