Sgorio
37 x 45' S4C
Genre: Chwaraeon
Darlledwyd yn gyntaf: 1988
Mae Sgorio wedi bod yn rhan annatod o arlwy chwaraeon S4C ers dros 20 mlynedd.
Darlledwyd y rhaglen gyntaf o Sgorio ar nos Lun, 5 Medi 1988 gydag Emyr Davies yn sylwebu ar ddarbi Catalonia rhwng Barcelona ag Espanyol o flaen torf o 120,000 yn Stadiwm y Nou Camp.
Dros y blynyddoedd mae cewri byd y bêl gron wedi ymddangos ar Sgorio, yn wir mae ambell i seren wedi ymddangos ar Sgorio cyn hyd yn oed ymddangos ar orsafoedd teledu eu hunain.
Wedi i Raúl González Blanco rwydo ei gôl gyntaf i Real Madrid ym 1994, achubodd gohebydd Sgorio, Emyr Davies, ar y cyfle i holi'r bachgen 17 mlwydd oed. Mae Raúl bellach yn brif sgoriwr yn hanes clwb Real Madrid!
Roedd Sgorio yn arloesol wrth ddarlledu uchafbwyntiau prif gynghreiriau Ewrop gyda rhai o fawrion y byd pêl-droed fel Ian Rush yn cyfaddef eu bod yn wylwyr cyson.
Erbyn heddiw mae Sgorio yn parhau i dorri cwys newydd. Yn ogystal â'r gorau o bêl-droed Sbaen a'r Eidal, mae Sgorio bellach yn dangos y gorau o Uwch Gynghrair Cymru tra bo Nic Parry a'i panel o westeion yn rhoi byd y bêl gron yn ei le.
Lincs Sgorio