PÊL-DROED RHYNGWLADOL

GEMAU BYW

UCHAFBWYNTIAU

Morgan Jones yn holi Ched Evans

Yn ogystal â darlledu'r gorau o bêl-droed y cyfandir ar raglen Sgorio, mae gan Rondo brofiad eang o ddarlledu gemau rhyngwladol byw.

Yn ystod gemau rhagbrofol Ewro 2004 darlledwyd dwy gêm fyw o Helsinki wrth i'r Ffindir herio'r Eidal a Serbia & Montenegro mewn gemau oedd yn dyngedfennol i obeithion Cymru yn eu grŵp.

Yn ddiweddarach cafwyd darllediadau byw ac ecsgliwif ar S4C o gemau cyfeillgar Cymru yn Lwcsembwrg a Gwlad yr Iâ ac uchafbwyntiau o gêm tîm dan-21 Cymru o Bosnia-Herzegovina.

Bydd Rondo hefyd yn darparu uchafbwyntiau gemau rhagbrofol cartref Cymru yn eu hymgyrch i gyrraedd Cwpan y Byd 2010 yn Ne Affrica.


Gwefan Sgorio