Rondo yn ennill cytundeb sylweddol
Dydd Gwener, 14 Mai 2010 13:29

Mae Cwmni Rondo wedi ennill cytundeb gynigwyd ar ffurf tendr gan S4C i gynhyrchu rhaglenni a chynnwys i bobl ifanc ar y Sianel.

Fe fydd y cynnwys yn canolbwyntio ar feysydd comedi, drama ac adloniant. Mae Rondo yn hyderus y bydd y cynyrchiadau yn denu gwylwyr ifanc i’r Sianel ac mae ennill y tendr hefyd yn cryfhau arbenigedd Rondo ym maes ffuglen a rhaglenni pobl ifanc.

Mae hefyd yn adeiladu ar gryfder cyfresi poblogaidd fel Rownd a Rownd ac Amdani.

Dywedodd Robin Evans, Cadeirydd Rondo, “ Mae’n newyddion da nid yn unig i Rondo ond i’r diwydiant teledu yn y gogledd. Bydd y cytundeb sylweddol hwn, dros dair blynedd, yn ein galluogi fel cwmni i gynnal ymgyrch recriwtio gwirioneddol ym mhob agwedd o’r diwydiant - ym meysydd cynhyrchu, ysgrifennu golygu a’r ochr dechnegol.”

Ychwanegodd Gareth Williams, Prif Weithredwr Rondo, “ Mae’r buddsoddiad yma gan S4C yn y gogledd yn mynd i ddiogelu nifer sylweddol o swyddi da yn yr ardal ac yn galluogi Rondo i feithrin a dtblygu talent newydd yn ogystal â sicrhau swyddi sy’n bodoli yn barod ym meysydd drama, comedi ac adloniant.”