| Rondo i gynhyrchu drama i BBC1 |
| Dydd Mawrth, 09 Mawrth 2010 11:13 |
|
Bydd Rondo yn cynhyrchu drama prynhawn ar gyfer BBC1 gyda Sanjeev Bhaskar yn chwarae rhan mewnfudwr o feddyg sydd yn gweithio yng Nghymru yn ystod y 1960au. Mae'r gyfres 5 x 45 munud yn canolbwyntio ar feddygon Asiaidd ddaeth i Brydain ar wahoddiad y gweinidog iechyd, Enoch Powell. "Roeddem ni eisiau dathlu cyfraniad mewnfudwyr i'r GIC," meddai cynhyrchydd Rondo, Tom Ware. "Mae'n wir hyd heddiw fod dros 70% o feddygon sy'n gweithio yng nghymoedd Cymru yn fewnfudwyr neu'n Asiaid Prydeinig." Bydd y gyfres, sy'n gynhyrchiad ar y cyd rhwng Rondo a chmni Bhaskar, Avatar, yn rhan o gyfres o raglenni ffeithiol gan y BBC yn canolbwyntio ar y newidiadau ym mywyd cymdeithasol Prydain yn ystod y ddegawd. |
