Y newyddion diweddaraf gan Rondo Media newydd, gan gynnwys ffilm a theledu gynyrchiadau a gwobrau.
|
|
Dydd Llun, 07 Mehefin 2010 10:58 |
|
Mae Rondo wedi ennill 2 wobr yn seremoni Bafta Cymru gynhaliwyd yng Nghanolfan y Mileniwm ar y 23ain o Fai. Llongyfarchiadau mawr i Dudley Newbery a Garmon Emyr a chriw'r gyfres 'Pryd o Sêr' am ennill y wobr ar gyfer y gyfres adloniant ysgafn gorau.
Llongyfarchiadau hefyd i Martyn Rourke enillodd gategori y Cyfarwyddwr Goleuo Gorau am ei waith arbennig ar Gyngerdd Dathlu Karl Jenkins. |
|
Dydd Gwener, 14 Mai 2010 13:29 |
|
Mae Cwmni Rondo wedi ennill cytundeb gynigwyd ar ffurf tendr gan S4C i gynhyrchu rhaglenni a chynnwys i bobl ifanc ar y Sianel.
Fe fydd y cynnwys yn canolbwyntio ar feysydd comedi, drama ac adloniant. Mae Rondo yn hyderus y bydd y cynyrchiadau yn denu gwylwyr ifanc i’r Sianel ac mae ennill y tendr hefyd yn cryfhau arbenigedd Rondo ym maes ffuglen a rhaglenni pobl ifanc.
Mae hefyd yn adeiladu ar gryfder cyfresi poblogaidd fel Rownd a Rownd ac Amdani.
Dywedodd Robin Evans, Cadeirydd Rondo, “ Mae’n newyddion da nid yn unig i Rondo ond i’r diwydiant teledu yn y gogledd. Bydd y cytundeb sylweddol hwn, dros dair blynedd, yn ein galluogi fel cwmni i gynnal ymgyrch recriwtio gwirioneddol ym mhob agwedd o’r diwydiant - ym meysydd cynhyrchu, ysgrifennu golygu a’r ochr dechnegol.”
Ychwanegodd Gareth Williams, Prif Weithredwr Rondo, “ Mae’r buddsoddiad yma gan S4C yn y gogledd yn mynd i ddiogelu nifer sylweddol o swyddi da yn yr ardal ac yn galluogi Rondo i feithrin a dtblygu talent newydd yn ogystal â sicrhau swyddi sy’n bodoli yn barod ym meysydd drama, comedi ac adloniant.” |
|
Dydd Mawrth, 09 Mawrth 2010 11:13 |
|
Bydd Rondo yn cynhyrchu drama prynhawn ar gyfer BBC1 gyda Sanjeev Bhaskar yn chwarae rhan mewnfudwr o feddyg sydd yn gweithio yng Nghymru yn ystod y 1960au.
Mae'r gyfres 5 x 45 munud yn canolbwyntio ar feddygon Asiaidd ddaeth i Brydain ar wahoddiad y gweinidog iechyd, Enoch Powell.
"Roeddem ni eisiau dathlu cyfraniad mewnfudwyr i'r GIC," meddai cynhyrchydd Rondo, Tom Ware.
"Mae'n wir hyd heddiw fod dros 70% o feddygon sy'n gweithio yng nghymoedd Cymru yn fewnfudwyr neu'n Asiaid Prydeinig."
Bydd y gyfres, sy'n gynhyrchiad ar y cyd rhwng Rondo a chmni Bhaskar, Avatar, yn rhan o gyfres o raglenni ffeithiol gan y BBC yn canolbwyntio ar y newidiadau ym mywyd cymdeithasol Prydain yn ystod y ddegawd. |
|
|
|
|