O'r Gât i'r Plât
Mae Dudley Newbery yn un o wynebau mwyaf cyfarwydd S4C wedi iddo gyflwyno rhaglenni coginio ar gyfer y sianel ers dros 20 mlynedd.
Yn ogystal ag ymweld â phob cwr o Gymru, mae ei gyfresi coginio, enillodd wobr BAFTA Cymru, wedi ymweld â lleoliadau egsotic a lliwgar fel Gwlad Thai, Jamaica a’r Eidal.
Ond yn ei gyfres newydd bydd y cyflwynydd poblogaidd yn teithio o amgylch Marchnadoedd Ffermwyr Cymru gan annog pobl i ddefnyddio mwy o gynnyrch lleol.
Gyda llawer mwy o bwyslais erbyn hyn ar fwyta bwydydd yn eu tymor a thorri lawr ar ol troed carbon, bydd Dudley yn cwrdd â'r bobol ddifyr a lliwgar sy'n teithio o gwmpas Marchnadoedd Ffermwyr mwyaf poblogaidd Cymru, a thu hwnt.
Bydd hefyd yn mynd ati i geisio ysgogi pobol i goginio drwy ddangos amrywiaeth o ryseitiau syml, gan ddefnyddio'r cynnyrch gwych lleol.
