Rownd A Rownd
Darlledwyd y bennod gyntaf o'r gyfres Rownd a Rownd ym 1995 fel yr opera sebon cyntaf i blant yn Gymraeg, ond bellach mae wedi llwyddo i ennill ei phlwy' fel cyfres boblogaidd ar gyfer y teulu cyfan.
Mae'r ddrama wedi ei lleoli a'i ffilmio’n gyfan gwbl ar leoliad ar set a adeiladwyd yn arbennig yn nhref Porthaethwy ar Ynys Môn.
Mae'r stori yn toi o amgylch bywydau bechgyn a merched y rownd bapur, eu ffrindiau, eu teuluoedd a'u gelynion!
Cafodd ei darlledu'n wreiddiol fel dwy benod chwarter awr pob wythnos ond mae'r gyfres wedi datblygu bellach i 46 penod 30 munud pob nos Fawrth a nos Iau rhwng Hydref ac Ebrill.
Mae'r gyfres yn llawn hiwmor ond nid yw ychwaith yn cuddio rhag wynebu pynciau llosg sy'n effeithio pobl ifanc ac mae wedi bod yn un o gonglfeinni S4C ers 15 mlynedd.
Mae Rownd a Rownd hefyd yn gwneud defnydd mawr o blatfformau eraill. Mae sawl blog fideo a chip tu ôl i lenni'r gyfres ar gael ar y wefan yn ogystal a bod ar gael i'w lawrlwytho i chwaraewyr MP3.
Ac fel byddai rhywun yn disgwyl o gyfres drama i bobl ifanc, mae'r rhaglen yn gwneud defnydd mawr o wefanau cymdeithasol fel facebook a twitter.
