Côr Cymru
Mae Rondo'n falch iawn o fod yn trefnu cystadleuaeth gorawl S4C, Côr Cymru sydd yn gweld corau o Gymru, corau gyda chysylltiad agos i Gymru, a chorau sy’n perfformio’n rheolaidd yn y Gymraeg yn cael y cyfle i gystadlu yn y digwyddiad, a gynhelir bob yn ail flwyddyn.
Caiff y gystadleuaeth ei rhannu i bum categori: Corau Plant o dan 16 mlwydd oed; Corau Ieuenctid o dan 25 mlwydd oed; Corau Cymysg; Corau Merched a Chorau Meibion gyda'r buddugwyr o pob adran yn camu ymlaen i'r rownd derfynol.
Mae enillwyr blaenorol y gystadleuaeth yn cynnwys Côr Plant Ysgol Gerdd Ceredigion (2009), Côr Cywair o Gastell Newydd Emlyn (2007), Serendipity o Gaerdydd (2005) ac Ysgol Gerdd Ceredigion (2003).
Yn ogystal â chystadleuaeth Côr Cymru, mae gwobr arbennig i arweinydd gorau’r gystadleuaeth. Cipiodd Mari Pritchard, arweinydd Côr Ieuenctid Môn, y wobr yn 2007 gyda Sioned James o Côrdydd yn ennill y wobr yn 2009.

Am fanylion cystadleuaeth 2011 cliciwch yma
Enillwyr Côr Cymru
2009: YSGOL GERDD CEREDIGION
2007: CYWAIR
2005: SERENDIPITY
2003: YSGOL GERDD CEREDIGION