Sgorio Cymru
Yn ogystal â'r rhaglen gylchgrawn wythnosol, Sgorio, mae Rondo yn cynhyrchu rhaglenni byw ac uchafbwyntiau o Uwch Gynghrair Cymru.
Mae ein rhaglen nos Sadwrn yn cynnwys uchafbwyntiau estynedig o gêm y dydd yn yr Uwch Gynghrair yn ogystal â'r gorau o gweddill gemau'r penwythnos.
Rydym hefyd yn darlledu sawl gêm fyw o Uwch Gynghrair Cymru a Chwpan Cymru yn ystod y tymor.
Mae Rondo wedi bod yn arloesol wrth ddarlledu Uwch Gynghrair Cymru gyda sawl elfen aml blatfform i'n ymdriniaeth o'r gynghrair.
Yn ogystal â llifo uchafbwyntiau o'r gemau ar wefan Sgorio ein fodcast Uwch Gynghrair Cymru oedd y cyntaf i gael ei gynnig trwy'r iaith Gymraeg.



