Ista'nbwl

Ista'nbwl

Bellach yn paratoi ar gyfer y drydedd gyfres, mae Ista'nbwl yn gyfres ddrama ddyfeisgar, gyfredol yn troi o amgylch bywydau'r selogion mewn tafarn yng Ngogledd Cymru.

Mae'r cast yn cynnwys rhai o enwau amlycaf y byd actio yng Nghymru ac mae eu profiad yn amhrisiadwy gan fod y cyfan yn cael ei ffilmio mewn set aml-gamera bwrpasol ar ddiwrnod y darllediad.

Mae newidiadau cyson i'r sgript gan y cast a'r criw sgriptio yn golygu nad tynnu coes eu gilydd yn unig mae'r cymeriadau, maen nhw hefyd yn gallu tynnu blew o drwynau rhai o'r ffigyrau amlycaf mewn materion cyfoes.

Er mwyn gwarchod cyfoesedd y sioe, mae gweithio'n gyflym yn un o'r rhagofynion amlwg ac mae popeth o'r set i'r sgript, o'r dull saethu i'r ôl-gynhyrchu wedi ei gynllunio gydag hyn mewn cof.

Bydd y gyfres nesaf yn cael ei darlledu o fis Medi 2010 ymlaen. Bydd wyth rhaglen hanner awr yn y gyfres yn ogystal â rhaglen arbennig i'w darlledu dros gyfnod y Nadolig.

Yn dychwelyd i'ch sgrîn ym mis Medi

Bookmark and Share