| Amdanom ni |
|
Mae Rondo Media yn gwmni darlledu annibynnol sydd â swyddfeydd parhaol yng Nghaerdydd, Caernarfon a Phorthaethwy. Ffurfiwyd Rondo Media yn 2008 wrth i ddau o gwmnïau annibynnol mwyaf profiadol Cymru – Ffilmiau’r Nant ac Opus TF - ddod at ei gilydd er mwyn creu cwmni darlledu aml-genre. Mae Rondo Media yn creu cynnwys chwaraeon, cerddoriaeth, drama, nodwedd a ffeithiol ar gyfer teledu ac yn rhyngweithiol. |
