Mae Rondo Media yn gwmni darlledu annibynnol sydd â swyddfeydd parhaol yng Nghaerdydd, Caernarfon a Phorthaethwy.

Ffurfiwyd Rondo Media yn 2008 wrth i ddau o gwmnïau annibynnol mwyaf profiadol Cymru – Ffilmiau’r Nant ac Opus TF - ddod at ei gilydd er mwyn creu cwmni darlledu aml-genre.

Mae Rondo Media yn creu cynnwys chwaraeon, cerddoriaeth, drama, nodwedd a ffeithiol ar gyfer teledu ac yn rhyngweithiol.

Galeri

NEWYDDION DIWEDDARAF


Côr Cymru 2009

Llongyfarchiadau mawr i Ysgol Gerdd Ceredigion a'u harweinydd Islwyn Evans am ennill cystadleuaeth Côr Cymru 2009 a llongyfarchiadau hefyd i Sioned James, arweinydd Côrdydd, am gipio gwobr Arweinydd y gystadleuaeth.


Lliwiau

Mae'r gyfres ryngwladol, Lliwiau, sydd wedi ei saethu mewn Manylder Uwch yn cael ei darlledu ar S4C ar hyn o bryd, bob nos Fawrth am 21.00


Sicrhau tendr newydd

Mae Rondo a chwmni Telesgop, mewn cais ar y cyd, wedi ennill tendr agored i gynhyrchu cyfres newydd ar S4C, o ddigwyddiadau led-led Cymru


Rondo yn ennill lle ar gynllun XM25 y BBC

Mae Rondo wedi eu dethol ymhlith pymtheg cwmni cynhyrchu ledled Prydain i fod ar gynllun XM25 y BBC.

Mae'r cynllun yn rhan o strategaeth y BBC i gynyddu’r nifer o raglenni a gynhyrchir y tu allan i gylch yr M25.

Mae cyfarwyddwr Vision y BBC Jana Bennett eisioes wedi datgan y bydd y BBC yn ymrwymo i ddatblygiadau penodol yng Nghymru ym meysydd drama, ffeithiol, dogfen a cherddoriaeth.


Cynhyrchydd Wanted Down Under a Bargain Hunt yn ymuno â Rondo

Yn sgil ennill y 'Talent Attraction Scheme' mae Rondo wedi cyflogi Tom Ware - cynhyrchydd profiadol o'r BBC ym Mryste.

Bu'n gyfrifol am nifer o lwyddiannau poblogaidd BBC Daytime, gan gynnwys Flog It, Bargain Hunt a Wanted Down Under, yn ogystal â nifer o gyfresi rhwydwaith fel The Human Planet a'r gyfres ar hanes bocsio, The Fight.

Bydd Tom yn gyfrifol am ddyfeisio fformats a syniadau newydd i Rondo ac i ennill comisiynau rhwydwaith i'r cwmni.


Rondo yn ennill y 'Talent Attraction Scheme'

Mae Rondo yn un o dri chwmni cynhyrchu yng Nghymru i elwa ar gynllun y 'Talent Attraction Scheme'.

Mae'r cynllun yn cynnig cymorth ariannol i gyflogi cynhyrchydd profiadol ym maes rhwydwaith ac wedi ei gynllunio gan Pact a'i ariannu mewn partneriaeth rhwng Skillset a Creative Business Wales.